Eurig salisbury biography of rory
Eurig salisbury biography of rory davis!
Eurig salisbury biography of rory
Eurig Salisbury
Bardd a darlithydd prifysgol Cymreig yw Eurig Salisbury (ganed Caerdydd, 1983).
Magwraeth a choleg
[golygu | golygu cod]Magwyd Eurig Salisbury ym mhentref Llangynog, Sir Gaerfyrddin.
Bu’n ddisgybl yn Ysgol y Dderwen ac yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Caerfyrddin. Dysgodd ei hun i ysgrifennu cynghanedd pan oedd yn dair-ar-ddeg oed, gyda chymorth cyfrol Myrddin ap Dafydd, Clywed Cynghanedd.[1] Aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Aberystwyth, lle enillodd radd BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu yn 2004, a gradd MPhil ar ganu cynnar Guto'r Glyn yn Adran y Gymraeg yn 2006.[2]
Ar ôl cyfnod yn gweithio fel cyfieithydd i Lywodraeth Cynulliad Cymru, fe’i penodwyd yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle cyfrannodd at dri phrosiect arloesol ar farddoniaeth yr Oesoedd Canol, cyn ei benodiad, yn 2015, yn Ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym M